Hysbysiad Preifatrwydd Cymdeithas Adeiladu Principality

Ein manylion cyswllt

Enw: Cymdeithas Adeiladu Principality

Rhif Ffôn: 0330 333 4000

E-bost: SharedMailbox.DigitalTeam@principality.co.uk

Y math o wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:

  • Dynodwyr personol, cysylltiadau a nodweddion (er enghraifft, ystod oedran, enw ysgol, tref a chyfeiriad e-bost)

Sut y cawn yr wybodaeth bersonol a pham ei bod gennym ni

Rhoddir y rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu i ni'n uniongyrchol gennych chi am un o'r rhesymau canlynol:

  • I roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyb Athrawon Dylan, gall hyn gynnwys unrhyw newidiadau neu gynnwys ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i chi

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi i ni er mwyn rhoi gwybod i chi, yn ôl y gofyn, am unrhyw ddiweddariadau i wefan Sgwad Athrawon Dylan a’r hyn y mae hi yn ei gynnig.

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR),y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:

(a) Eich caniatâd. Cewch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 0330 333 4000

(b) Mae gennym fuddiant dilys.

Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn ein system e-bost gyda mynediad cyfyngedig.

Byddwn yn cadw eich cyfeiriad e-bost cyhyd ag y bo'n berthnasol neu eich bod chi'n dad-danysgrifio. Pan fyddwch yn dad-danysgrifio byddwn yn tynnu eich manylion o’r rhestrau postio wedi hynny ac yn gwaredu eich gwybodaeth drwy ddileu eich manylion o'r system e-bost o fewn 12 mis.

Eich hawliau diogelu data

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

Eich hawl mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.

Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym ni un mis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni DPO@principality.co.uk os hoffech wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon am ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, cewch wneud cwyn i ni ar 0330 333 4000 neu drwy ysgrifennu atom: Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Blwch Post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 1UA.

Cewch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich data.

Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk